Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Ymgysylltu ag Ewrop

Nodyn ar ymweliad y Pwyllgor â Brwsel rhwng 9 a 11 Mai 2012


 

Cyflwyniad

Ers mis Medi 2011, mae’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd wedi bod yn ystyried goblygiadau cynigion y Comisiwn Ewropeaidd i ddiwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) a’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredinol (PPC) i Gymru.  Fel y sefydliad democrataidd etholedig cenedlaethol i Gymru, mae’n iawn ac yn briodol y dylai’r Cynulliad ymgysylltu’n effeithiol â’r Undeb Ewropeaidd ar faterion o bwys i Gymru. Mae’r Pwyllgor wedi ceisio gwneud hyn drwy:

§  ddarparu fforwm cyhoeddus lle gall rhanddeiliaid Cymru ddeall a mynegi eu pryderon am y cynigion deddfwriaethol drafft i ddiwygio’r PAC a’r PPC

§  gwneud cyfraniad cadarnhaol yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE, gan ganolbwyntio’n benodol ar gyflwyno ‘gwelliannau’ i’r testun i Senedd Ewrop (siarad ar lefel un ddeddfwrfa a’r llall), sydd, fel y corff etholedig democrataidd ym Mrwsel, mewn difrif, yn cyd-ddeddfu ar ein rhan yn y broses drafod

Er mwyn gwneud hyn, cawsom dystiolaeth gan randdeiliaid o Gymru i lywio ein barn ac rydym wedi ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Senedd Ewrop a’r Comisiwn Ewropeaidd i sicrhau bod safbwynt Cymru ar y diwygiadau arwyddocaol hyn yn cael eu hystyried wrth i’r cynigion gael eu pasio drwy Senedd Ewrop.

Fel ail gam, ac i sicrhau bod safbwynt Cymru yn cael ei ystyried, teithiodd y Pwyllgor i Frwsel i roi sylwadau uniongyrchol i’r rheini sydd wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau. Rhwng 9 a 11 Mai 2012, cawsom naw cyfarfod ag ASEau, uwch swyddogion y Comisiwn Ewropeaidd ac eraill. Darperir rhestr lawn ar ddiwedd y papur hwn.

Yn ogystal â mynegi ein safbwynt, gwnaethom hefyd gasglu gwybodaeth ddefnyddiol am yr amserlen ar gyfer ystyried y cynigion, sut y mae’r ystyriaeth yn mynd rhagddi a’r lefel y caiff pryderon rhanddeiliaid o Gymru eu rhannu ag eraill ar lefel Ewropeaidd. Rydym wedi dod â’r wybodaeth hon yn ôl i Gymru a gallwn bellach dargedu’n strategol ymgysylltiad â rhanddeiliaid yn y dyfodol ac â sefydliadau Ewropeaidd dros y chwech i 12 mis nesaf.

Roedd yr ymweliad â Brwsel yn rhan bwysig o’r broses hon, ac roedd yn rhoi neges glir am ein hymrwymiad i ymgysylltu’n effeithiol â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r ymweliad hwn yn enghraifft o’r dull o siarad ar lefel un ddeddfwrfa a’r llall, ‘deddfwrfa a deddfwrfa’ â Senedd Ewrop ar faterion y mae Senedd Ewrop yn gyd-ddeddfwr ym Mrwsel ar ddeddfwriaeth yr UE a fydd yn cael effaith ar Gymru. Mae ein perthynas gref ag Aelodau Cymru o Senedd Ewrop, a all weithredu fel ‘cyfrwng’ ym Mrwsel ar gyfer y gwaith hwn, yn bwysig iawn i lwyddiant y dull hwn, ac roeddem yn falch o weld bod yr ASEau yn croesawu’r dull rydym yn ei ddatblygu.

Rydym yn ddiolchgar i bawb a wnaeth gyfarfod â ni yn ystod ein hymweliad ac am yr agwedd agored ac onest a welwyd yn y cyfarfodydd hyn. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gydag unigolion a sefydliadau wrth i’r diwygiadau arfaethedig fynd rhagddynt.


 

Prif negeseuon

Isod gwelir rhai o’r prif negeseuon a glywodd y Pwyllgor mewn cysylltiad â’r cynigion i ddiwygio’r PAC a’r PPC.

Polisi Pysgodfeydd Cyffredin

Cynlluniau amlflwydd – dywedodd ASEau bod Senedd Ewrop yn cael problemau parhaus o ran cael cytundeb cyfreithiol â Chyngor y Gweinidogion ar Gynlluniau Amlflwydd a bod hyn, i raddau, yn rhwystro’r broses ddiwygio.

Consesiynau Pysgota Trosglwyddadwy – Clywodd y Pwyllgor fod ASEau wedi clywed sylwadau gwahanol gan bysgotwyr ynghylch hyd y consesiynau, yr oedd rhai ohonynt yn cyd-fynd yn gyffredinol ag argymhellion y Pwyllgor o gonsesiynau saith mlynedd. Roedd ASEau a’r Comisiwn yn rhannu barn y Pwyllgor ei bod yn bwysig sicrhau bod consesiynau yn cyrraedd dwylo pysogtwyr gweithredol yn y pen draw.

Datganoli cyfrifoldeb i’r rhanbarthau  – roedd cefnogaeth eang dros alwad y Pwyllgor am ddatganoli cyfrifoldeb pellach i’r rhanbarthau. Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae trafodaeth gyfreithiol yn mynd rhagddi rhwng Senedd Ewrop, y Cyngor Ewropeaidd a’r Comisiwn Ewropeaidd ynghylch trosglwyddo cyfrifoldeb dros fater sy’n perthyn yn llwyr i gymhwysedd Aelod-wladwriaethau’r UE.

Clywodd y Pwyllgor farn gan ASEau a oedd yn dweud os na chaiff y drafodaeth gyfreithiol hon ei datrys, gallai olygu gohirio cytundeb ar y cynigion diwygio tan ddiwedd 2013. Nodwyd ymhellach na fyddai gan y cynigion a gyflwynir gan y Comisiwn unrhyw sail gyfreithiol ar ôl 2014.

Awgrymodd y Pwyllgor fod strwythurau’n bodoli i ddarparu dulliau rheoli mwy lleol, gan gynnwys y posibilrwydd o greu is-bwyllgor o gyngor cynghorol rhanbarthol e.e. ar lefel Môr Iwerddon.

Gwaharddiad ar daflu pysgod yn ôl i’r môr – roedd ASEau ar y cyfan yn cytuno y dylid cyflwyno gwaharddiad ar sail fesul pysgodfa a chlywodd y Pwyllgor fod y Comisiwn wrthi’n ystyried y cynnig hwn. Clywodd y Pwyllgor hefyd pe byddai gwyddoniaeth yn awgrymu y gellid dychwelyd sgîl-ddalfa yn fyw, byddai’r Comisiwn yn caniatáu i hynny ddigwydd.

Casglu data - cafodd y Pwyllgor gefnogaeth eang mewn egwyddor i’w safiad ar gryfhau’r broses o gasglu data.

Dyframaethu – Clywodd y Pwyllgor rywfaint o gefnogaeth i gynnwys dyframaethu o dan y PPC.


 

 

Polisi Amaethyddol Cyffredin

Amserlen – clywodd y Pwyllgor wybodaeth gan ASEau, y Comisiwn ac eraill y byddai canlyniad diwygio’r PAC yn cael ei lunio gan y trafodaethau ar y Fframwaith Ariannol Amlflwydd.

Clywodd y Pwyllgor:

·         Y bydd cytundeb terfynol ar y PAC erbyn mis Mawrth yn hanfodol er mwyn caniatáu digon o amser i Aelod-wladwriaethau sefydlu rhaglenni cenedlaethol.

·         Gellir ond dod i gytundeb ar y PAC erbyn mis Mawrth 2013 os y caiff cytundeb ar y fframwaith ariannol ei wneud erbyn mis Rhagfyr 2012.

·         Efallai y bydd bwlch yn y trafodaethau ar lefel uchel ar y PAC yn ystod yr hydref oherwydd byddant yn canolbwyntio ar y fframwaith ariannol.

·         Ni fydd unrhyw sail gyfreithiol i’r cynlluniau datblygu gwledig presennol ar ôl 2014.

Mae ASEau yn disgwyl miloedd o welliannau i’r adroddiad drafft ar daliadau uniongyrchol sydd wrthi’n cael ei baratoi gan rapporteur y Pwyllgor Amaethyddiaeth.

Trosglwyddo i daliadau sy’n seiliedig ar arwynebedd – Yn gyffredinol, roedd ASEau yn ymddangos eu bod yn cefnogi’r farn y dylai Aelod-wladwriaethau sy’n symud o daliad hanesyddol i daliad yn seiliedig ar arwynebedd gael mwy o hyblygrwydd i benderfynu ar raddfa a chyflymder y trosglwyddo, er mwyn sicrhau bod y trosglwyddiad mor ddidrafferth â phosibl. Mynegwyd sawl barn wahanol o ran yr amserlen er mwyn trosglwyddo. Hefyd, cafwyd amrywiaeth barn gan y rhanddeiliaid a gymerodd ran yn y drafodaeth bwrdd crwn ar yr amserlen.

Roedd y wybodaeth a ddaeth gan y Comisiwn yn awgrymu nad oes, ar hyn o bryd, gonsensws clir gan Aelod-wladwriaethau ar gyfradd y trosglwyddo.

Taliad Gwyrdd – Roedd ASEau yn ymddangos yn derbyn bod gwyrddio Colofn 1 yn debygol, ond nodwyd y byddai’n anodd dod i gytundeb ar union natur y gofynion hyn. Mynegwyd barn wahanol ar gais y Pwyllgor am ddewis o opsiynau o ran gwyrddio.

Clywodd y Pwyllgor fod y Comisiwn yn debygol o ganiatáu i ffermwyr mewn cytundebau amaeth-amgylcheddol sy’n mynd y tu hwnt i ofynion y cynigion gwyrddio dderbyn y taliadau gwyrddio yn awtomatig. Byddai hyn yn amodol ar graffu ar ofynion y cynllun amaeth-amgylcheddol gan y Comisiwn cyn y gallai ei gyfranogwyr gael eu heithrio o’r gofynion gwyrddio.

O ran diffiniad o’r Ardaloedd â Ffocws Ecolegol, roedd y Pwyllgor yn falch o glywed bod nodweddion tirwedd fel coed ac ardaloedd sy’n cael eu dosbarthu fel ardaloedd anghynhyrchiol yn debygol o gael eu cynnwys yn y diffiniad, er bod gwaith yn mynd rhagddo yn y maes hwn.

Newydd-ddyfodiaid – Roedd gan ASEau a’r Comisiwn ddiddordeb ym marn y Pwyllgor y dylid canolbwyntio ar roi cymorth i newydd-ddyfodiaid i’r byd ffermio, waeth beth fo’u hoedran. 


 

Crynodeb o gyfarfodydd

Darperir crynodeb o’r cyfarfodydd a gynhaliodd y Pwyllgor isod.

Cynhaliwyd y cyfarfodydd hyn heb gofnod ac felly mae’r crynodeb o’r cyfarfodydd hyn yn gryno.

1. Polisi Pysgodfeydd Cyffredin – Cyfarfod â’r ASEau

Dyddiad ac amser

Dydd Mercher 9 Mai 2012 (18.00 – 19:00)

Lleoliad

Senedd Ewrop

Cyfarfod â:

·         Gabriel Mato ASE: Cadeirydd y Pwyllgor Pysgodfeydd

·         Struan Stevenson ASE: Rapporteur Rheoleiddio Sefydliad Marchnad Cyffredin (CMO), diwygio’r PPC

 

Crynodeb

 

Mynegodd y Pwyllgor ei ganfyddiadau ar y cynnig i ddiwygio PPC.

Cynigiodd y ddau ASEau wneud gwaith dilynol pellach gyda’r Pwyllgor ar hyn ac unrhyw fater arall sy’n berthnasol i’r Cynulliad yn y dyfodol.

2. Polisi Amaethyddol Cyffredin – Cyfarfod â’r ASEau

Dyddiad ac amser

Dydd Mercher 9 Mai 2012 (19.00 – 20:00)

Lleoliad

Senedd Ewrop

Cyfarfod â:

·         Luis Capoulas Santos ASE: Rapporteur (Taliadau Uniongyrchol, Datblygu Gwledig)

·         George Lyon ASE: Rapporteur cysgodol (Taliadau Uniongyrchol, Rheoliadau Llorweddol)

·         Jim Nicholson ASE: Rapporteur cysgodol (Datblygu Gwledig, Rheoleiddio CMO)

·         Mairead McGuinness ASE: Rapporteur cysgodol (Taliadau Uniongyrchol)

 

Crynodeb

 

Nododd y Pwyllgor ei safbwynt ar y cynnig i ddiwygio’r PAC a chafodd drafodaeth ag ASEau ar sut roedd y cynigion yn datblygu drwy Senedd Ewrop.

Dywedodd pob un o’r ASEau y byddant yn fodlon cynnal trafodaethau pellach â’r Pwyllgor wrth i’r trafodaethau fynd rhagddynt yn Senedd Ewrop.


 

3. Polisi Amaethyddol Cyffredin – Cyfarfod â Staff Cabinet Comisiynydd Amaethyddiaeth yr UE Dacian Ciolos

Dyddiad ac amser

Dydd Iau 10 Mai 2012 (10.00 – 11.00)

Lleoliad

Y Comisiwn Ewropeaidd, Adeilad Berlaymont

Cyfarfod â:

·         Georg Haussler, Chef de Cabinet

·         Gwilym Jones, Aelod o’r Cabinet

 

Crynodeb

Ar ôl nodi ei farn ar y cynnig i ddiwygio’r PAC, cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ar sut roedd Cabinet y Comisiynydd Ciolos yn gweld y trafodaethau yn mynd rhagddynt.

Clywodd y Pwyllgor wybodaeth ddefnyddiol mewn cysylltiad â’r amserlen ar gyfer y cynigion a chafodd ymdeimlad o’r ffordd mae’r gwynt yn chwythu o ran rhai o’r cynigion.

4. Cyfarfod ag UKREP

Dyddiad ac amser

Dydd Iau 10 Mai 2012 (11.30 – 12.00)

Lleoliad

Tŷ Cymru

Cyfarfod â:

·         Tim Render, Cynghorydd ar Faterion Amaethyddol, UKREP

 

Crynodeb

 

Cafodd y Pwyllgor drafodaeth gynhyrchiol â Mr Render. Rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf am:

·         Safbwynt presennol Llywodraeth y DU

·         Cyflwr y trafodaethau yng Nghyngor y Gweinidogion ar gynigion y PAC a’r PPC.

5. Cinio i drafod gwaith gydag ASEau Cymru

Dyddiad ac amser

Dydd Iau 10 Mai 2012 (13.00 – 13.45)

Lleoliad

Senedd Ewrop

Cyfarfod â:

·         Jill Evans ASE

·         Derek Vaughan ASE

·         Kay Swinburne ASE

 

Crynodeb

Croesawodd yr ASEau ymweliad y Pwyllgor, a nododd fod y dull a gymerwyd ganddo wedi gwneud y gorau o’i botensial i ddylanwadu ar ddatblygiadau ym Mrwsel.

Diolchodd y Pwyllgor i’r ASEau am eu cymorth a mynegodd ei obaith y byddai’r cydweithio hwn er budd Cymru yn parhau.


 

6. Bwrdd Crwn ar Ddiwygio’r PAC a’r PPC

Dyddiad ac amser

Dydd Iau 10 Mai 2012 (13.45 – 15.00)

Lleoliad

Senedd Ewrop

Cyfarfod â:

·         Siân Davies, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Swyddfa Amaethyddiaeth Prydain

·         Tatiana Nemcova, Uwch Swyddog Eiriolaeth yr UE, Birdlife Europe

·         Trees Robijns, Swyddog Polisi Amaethyddiaeth yr UE, Birdlife Europe

·         Dermot Ryan, Cynrychiolydd Parhaol Iwerddon i Gwnsler yr UE, Uned Amaethyddiaeth a Physgodfeydd,

·         Michael Schwertl, Cynrychioliaeth Bafaria i’r UE, Materion Amaethyddiaeth a Gwledig

·         Eileen Kelly, Swyddfa Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ym Mrwsel, Dirprwy Bennaeth y Swyddfa

 

Crynodeb

Clywodd y Pwyllgor safbwyntiau amrywiol gan y panel a rhannodd ei safbwynt â’r rhai a oedd yn bresennol. Credai’r Pwyllgor ei bod yn ddefnyddiol i archwilio meysydd lle roedd cytuno ac anghytuno ac roedd yn galonogol gweld bod llawer o’r farn a fynegwyd gan randdeiliaid o Gymru yn cael ei rhannu gan ranbarthau a sefydliadau eraill Ewrop.

7. Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Amaethyddiaeth

Dyddiad ac amser

Dydd Iau 10 Mai 2012 (15.00 – 16.00)

Lleoliad

Senedd Ewrop

Cyfarfod â:

·         Tassos Haniotis, Cyfarwyddiaeth Dadansoddi Economaidd, Safbwyntiau a Gwerthusiadau

·         Pierre Bascou, Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Amaethyddiaeth

·         Betty Lee, Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Amaethyddiaeth

 

Crynodeb

Rhoddodd Mr Haniotis y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y cynigion i ddiwygio’r PAC o safbwynt y Comisiwn Ewropeaidd. Rhoddodd fanylion am agweddau ar y cynnig a chytunodd i ymgysylltu â’r Pwyllgor eto wrth i’r cynigion ddatblygu.


 

 

8. Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Materion Morol a Physgodfeydd

Dyddiad ac amser

Dydd Iau 10 Mai 2012 (16.30 – 18.00)

Lleoliad

Y Comisiwn Ewropeaidd, Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Materion Morol a Physgodfeydd, 99 Rue Joseph II

Cyfarfod â:

·         Lowri Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Materion Morol a Physgodfeydd

·         Joost Paardekooper, Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Materion Morol a Physgodfeydd

 

Crynodeb

Roedd y trafodaethau yn cynnwys nifer o faterion gan gynnwys y PPC, Cynllunio Gofodol Morol a Thwf Glas. Croesawodd y Cyfarwyddwr Cyffredinol waith y Pwyllgor ar y cynigion i ddiwygio’r PPC a chynghorodd i gadw’r ymchwiliad ar agor dros y 12 mis nesaf wrth i’r trafodaethau barhau ar y cynigion drafft.

9. Cyfarwyddiaeth Gyffredinol yr Amgylchedd

Dyddiad ac amser

Dydd Gwener 11 Mai 2012 (10:00 – 11:30)

Lleoliad

Y Comisiwn Ewropeaidd, Cyfarwyddiaeth Gyffredinol yr Amgylchedd,

Cyfarfod â:

·         Karl Falkenberg, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Amgylchedd

Crynodeb

Cynhaliodd y Pwyllgor drafodaethau â’r Cyfarwyddwr Cyffredinol ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys cadwraeth forol, polisi dŵr, rhywogaethau goresgynnol estron a chydymffurfio â Chyfarwyddebau amgylcheddol.


 

Rhestr o’r bobl a oedd yn y cyfarfodydd

Aelodau Senedd Ewrop

·         Gabriel Mato ASE: Cadeirydd y Pwyllgor Pysgodfeydd

·         Struan Stevenson ASE: Rapporteur Rheoleiddio Sefydliad Marchnad Cyffredin (CMO), diwygio PPC

·         Luis Capoulas Santos ASE: Rapporteur (Taliadau Uniongyrchol, Datblygu Gwledig)

·         George Lyon ASE: Rapporteur cysgodol (Taliadau Uniongyrchol, y Rheoliad Llorweddol)

·         Mairead McGuinness ASE: Rapporteur cysgodol (Taliadau Uniongyrchol)

·         Jim Nicholson ASE: Rapporteur cysgodol (Datblygu Gwledig, Rheoleiddio CMO)

·         Jill Evans ASE

·         Derek Vaughan ASE

·         Kay Swinburne ASE

Y Comisiwn Ewropeaidd

·         Georg Haussler, Chef de Cabinet, Comisiynydd Amaethyddiaeth yr UE

·         Gwilym Jones, Aelod o’r Cabinet, Comisiynydd Amaethyddiaeth yr UE

·         Tassos Haniotis, Cyfarwyddiaeth Dadansoddi Economaidd, Safbwyntiau a Gwerthusiadau, Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Amaethyddiaeth

·         Pierre Bascou, Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Amaethyddiaeth

·         Betty Lee, Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Amaethyddiaeth

·         Lowri Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Materion Morol a Physgodfeydd

·         Joost Paardekooper, Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Materion Morol a Physgodfeydd

·         Karl Falkenberg, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Amgylchedd

Arall

·         Tim Render, Cynghorydd ar Faterion Amaethyddol, UKREP

·         Siân Davies, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Swyddfa Amaethyddiaeth Prydain

·         Tatiana Nemcova, Uwch Swyddog Eiriolaeth yr UE, Birdlife Europe

·         Trees Robijns, Swyddog Polisi Amaethyddiaeth yr UE, Birdlife Europe

·         Dermot Ryan, Cynrychiolydd Parhaol Iwerddon i Gwnsler yr UE, Uned Amaethyddiaeth a Physgodfeydd,

·         Michael Schwertl, Cynrychiolaeth Bafaria i’r UE, Materion Amaethyddiaeth a Gwledig

·         Eileen Kelly, Swyddfa Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ym Mrwsel, Dirprwy Pennaeth y Swyddfa